Mae’r Adar Gleision yn ymweld â Tottenham Hotspur yn Uwch Gynghrair Lloegr yfory (Dydd Sadwrn, Hydref 6), gyda’r gêm yn cael ei chwarae ar gae enwog Stadiwm Wembley.

Gydag wyth colled a thair gêm gyfartal, mae Caerdydd dal heb hawlio buddugoliaeth yn y gynghrair, ac mi fydd tîm Mauricio Potchettino yn siŵr o gyflwyno her enfawr.

Dwy flynedd “anhygoel”

Roedd hwyliau gwych ar Neil Warnock heddiw wrth iddo siarad ar y diwrnod sydd union ddwy flynedd ers iddo ymuno â’r clwb.

“Mae cymaint wedi digwydd, mae hi wedi bod  yn amser anhygoel,” meddai rheolwr Caerdydd.

“Mae’n rhywbeth dw i’n falch iawn ohono, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen nawr. Rwy’n credu mai fy nghamp fwyaf yw dod â’r clwb at ei gilydd.

“Mae’n deimlad gwych cael pawb yn ein cefnogi, yr oll sydd angen ei wneud rŵan yw sicrhau canlyniadau er mwyn eu gwneud hyd yn oed yn hapusach!

“Fe wnawn ni roi gêm iddyn nhw os allwn ni. Mae’n stadiwm gwych … ac mi fydd  yn arbennig i’r cefnogwyr.”

Tir cyfarwydd

Nid yw Stadiwm Wembly yn gae diarth i glwb pêl-droed Caerdydd.

Mwynhaodd tîm Dave Jones ddau drip o fewn mis i’r stadiwm yn ystod eu taith gofiadwy yng Nghwpan FA Lloegr yn 2008. Enillodd yr Adar Gleision 1-0 yn erbyn Barnsley cyn mynd ymlaen i golli o’r un sgôr yn erbyn Porstmouth yn y ffeinal.

Eu hymddangosiad diweddaraf ar y cae oedd pan ddaeth Malky Mackay a’r brifddinas yn agos iawn i godi Cwpan Cynghrair Lloegr yn 2012 – ble collwyd y tlws ar giciau smotyn i Lerpwl.

Timau

Mi fydd Junior Hoillet ar gael unwaith eto i Gaerdydd ar ôl methu’r golled 2-1 i  Burnley gyda firws.

Mae’r canolwr Aron Gunnarsson yn parhau i fod yn absennol oherwydd problem i’w ben-glin, ond mae posibilrwydd iddo fod yn ffit i wynebu Fulham ar ôl y gemau rhyngwladol wythnos nesaf.

Mae anafiadau i Christian Eriksen, Dele Alli, Jan Vertonghen a Mousa Dembele – pedwar o sêr Spurs – yn siŵr o fod yn gysur i Gaerdydd, ond bydd Harry Kane yno i godi ofn.