Wrth i’r adar gleision hofran ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr, mae rheolwr y clwb wedi dweud bod angen “bach o lwc” ar ei dîm.

Collodd clwb pêl-droed Caerdydd eu gêm ddiweddaraf ar ddydd Sul (Medi 30), gyda’r ymwelwyr, Burnley, yn ennill o ddwy gôl i un.

Dyma oedd eu seithfed gêm, a hyd yma mae’r clwb wedi methu a churo unrhyw dîm arall – mae Caerdydd  wedi ennill dau bwynt yn unig.

Wrth edrych ymlaen at eu gemau nesa’ – mae gemau oddi cartref yn erbyn Tottenham a Lerpwl ar y gweill – mae Neil Warnock wedi dweud bod angen mymryn o lwc ar ei dîm.

Lwc

“Rydym wedi cael digon o gyfleoedd,” meddai Neil Warnock.

“Yn amlwg, gwnaethom ildio ddwy gôl. Ond, dw i’n teimlo ein bod wedi bod yn wych ym mhob ffordd arall. Doedd y ddwy gôl ddim yn wych.

“Mae angen bach o lwc arnom, a bod yn onest. Ond, dw i methu beio’r bois. Roedden nhw’n wych yn fy marn i.”