Caerdydd 1–2 Burnley                                                                      

Colli fu hanes Caerdydd wrth i Burnley ymweld â Stadiwm y Ddinas yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sul.

Blaenwr Cymru, Sam Vokes, a sgoriodd y gôl fuddugol i’r ymwelwyr wedi i Josh Murphy unioni pethau i Gaerdydd.

Caerdydd a gafodd y gorau o hanner cyntaf digon gwael ond bu rhaid aros tan y deg munud olaf am unrhyw gyffro o flaen gôl Burnley.

Arbedodd Joe Hart yn dda iawn yn isel i’w chwith o flaen-troedar Kenneth Zohore a gwnaeth Callum Paterson lanast llwyr o beniad rhydd yn y cwrt chwech.

Wnaeth Burnley ddim cynnig dim yn yr hanner cyntaf a theg dweud iddynt fynd ar y blaen yn erbyn llif y chwarae yn gynnar yn yr ail hanner. Peniad digon gwan a oedd un Johann Berg Gudmundson o groesiad Ashley Westwood ond roedd yn ddigon i guro Neil Etheridge wrth ei bostyn agosaf.

Ymatebodd Caerdydd yn dda ac roeddynt yn gyfartal ar yr awr diolch I Murphy, yn gorffen yn wych ar y cynnig cyntaf o groesiad Bruno Ecuele Manga.

Murphy a oedd chwaraewr disgleiriaf Caerdydd a bu bron i’r asgellwr ifanc roi ei dîm ar y blaen gyda chynnig o bellter ychydig funudau’n ddiweddarach ond cafodd ei atal gan arbediad da Hart.

Burnley yn hytrach a gafodd y gôl fuddugol wrth i Vokes ei hennill hi i’r ymwelwyr ugain munud o’r diwedd gyda pheniad deheuig o bas Berg Gudmundsson.

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn y pedwerydd safle ar bymthag yn nhabl yr Uwch Gynghrair gyda dim ond dau bwynt o’u saith gêm gyntaf.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Cunningham, Camarasa, Arter, Ralls (Madine 79’), Murphy, Paterson, Zohore (Ward 71’)

Gôl: Murphy 60’

Cerdyn Melyn: Cunningham 69’

.

Burnley

Tîm: Hart, Lowton, Tarkowski (Long 27’), Mee, Taylor, Berg Gudmundsson, Cork, Westwood, Lennon, Vydra (Wood 72’), Vokes

Goliau: Berg Gudmundsson 51’, Vokes 70’

Cardiau Melyn: Westwood 45+2’, Lowton 87’, Lennon 90+3’

.

Torf: 30,411