Casnewydd 4–2 Caergrawnt                                                          

Tarodd Casnewydd yn ôl mewn steil i guro Caergrawnt yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn ar ôl bod ddwy gôl ar ei hôl hi wedi ugain munud ar Rodney Parade.

Tynnodd Mickey Demetriou un yn ôl cyn yr egwyl cyn i Dan Butler weini’r goliau yn yr ail hanner, yn creu tair i’w gyd chwaraewyr.

Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Reggie Lambe’r ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd isel dda o du allan i’r cwrt cosbi. A dyblodd Lambe fantais ei dîm wedi ugain munud gyda gôl unigol dda.

Hanerodd Demetriou’r fantais honno ym munud olaf yr hanner, yn sgorio o’r smotyn wedi trosedd Charlie O’Neil ar Charlie Cooper.

Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr eil hanner wedi hynny gyda chroesiadau Butler yn creu trafferthion di-rif yng nghwrt cosbi Caergrawnt.

Unionodd Padraig Amond o un o’r croesiadau hynny’n gynnar wedi’r egwyl cyn i Jamille Matt ennill y gêm gyda dau beniad mewn cyfnod o bedwar munud o gwmpas yr awr.

Mae’r fuddugoliaeth wych yn codi Casnewydd i’r ail safle yn nhabl yr Ail Adran, dri phwynt y tu ôl i Lincoln ar y brig.

.

Casnewydd

Tîm: Townsend, Franks, O’Brien (Cooper 3’), Demetriou, Hornby-Forbes, Bennett, Bakinson, Butler, Sheehan (Matt 39’), Amond, Semenyo (Pring 86’)

Goliau: Demetriou [c.o.s.] 45+1, Amond 49’, Matt 60’, 63’

.

Caergrawnt

Tîm: Forde, Halliday, John, Taft (Lewis 67’), Carroll, O’Neil (Corr 84’), Taylor, Maris, Brown (Azeez 69’), Ibehre, Lambe

Gôl: Lambe 4’, 21’

.

Torf: 3,104