Ddylai Burnley ddim cymryd y gêm yn erbyn Caerdydd ddydd Sul (4 o’r gloch) yn ganiataol, yn ôl Sam Vokes.

Bydd ymosodwr Cymru’n arwain yr ymosod yn erbyn yr Adar Gleision, sy’n dal i geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

A byddan nhw’n herio tîm Burnley a drechodd Bournemouth o 4-0 yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Sam Vokes wrth wefan Burnley, “Rydych chi’n rhoi cwpwl o ganlyniadau at ei gilydd nawr ac yn neidio i fyny’r tabl. Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud hynny.

“Allwn ni ddim jyst gorwedd yn ôl ar ôl y canlyniad yn erbyn Bournemouth a meddwl ein bod ni wedi gwneud ein gwaith – mae angen i ni adeiladu ar hynny a mynd ati unwaith eto.

“Byddan nhw [Caerdydd] yn chwilio am bwyntiau eu hunain. Ry’n ni’n gwybod sut beth yw bod yn dîm sydd newydd ennill dyrchafiad ac mae’n le anodd i fynd iddo bob tro.”