Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter yn awyddus i gadw dau Gymro ifanc sydd wedi torri drwodd i’r tîm cyntaf.

Mae’r amddiffynnwr canol 20 oed o Langyfelach, Joe Rodon, a’r cefnwr de 22 oed o Gastell-nedd, Connor Roberts yn chwarae’n gyson y tymor hwn ar ôl i’r Elyrch gwympo o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.

Mae Joe Rodon wedi cael ei gyfle yn sgil ymadawiad Federico Fernandez, a Connor Roberts yn sgil ymadawiad y capten Angel Rangel.

Ac mae Connor Roberts eisoes yn creu argraff ar y llwyfan rhyngwladol gyda Chymru, yn dilyn ei gôl gyntaf dros ei wlad yn y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Trafodaethau

Yn sgil gwerthu cynifer o chwaraewyr ers dechrau’r haf, mae pryderon y gallai cynigion mawr ddenu’r ddau i ffwrdd o’r clwb. Ond mae Graham Potter yn awyddus i barhau i drafod cytundebau newydd i’r ddau yn dilyn trafodaethau cychwynnol.

“R’yn ni am allu diogelu chwaraewyr fel Joe Rodon a Connor Roberts oherwydd mai nhw yw dyfodol y clwb,” meddai. “Maen nhw fwy na thebyg ar adeg yn eu gyrfa lle maen nhw’n gwybod eu bod nhw mewn lle da.

“Mae ganddyn nhw gyfle i chwarae ac maen nhw’n cael cefnogaeth dda ar gyfer eu gyrfaoedd.

“Mae chwarae, cael amser i ddatblygu, a derbyn adborth a chymorth yn bwysig i fois sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd. Nid chwarae mewn 30 gêm sy’n bwysig, ond chwarae mewn 300 i 400 o gemau.”