Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n aros i glywed pa mor ddifrifol yw’r anaf i ffêr Bersant Celina yn dilyn y gêm ddi-sgôr â Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Fe gafodd ei daclo’n flêr gan amddiffynnwr yr ymwelwyr Saidy Janko.

Ac mae pryderon am un arall o’r chwaraewyr canol cae, Jay Fulton ar ôl iddo fynd ben-ben â gwrthwynebydd a theimlo’r effeithiau am gryn amser wedyn.

Bu’n rhaid i’r ddau adael y cae ar egwyl.

Rhestr hir

Dywedodd rheolwr Abertawe, Graham Potter y byddai’r clwb yn asesu’r anaf i Bersant Celina dros y dyddiau nesaf, tra mai “rhagofal” yn unig oedd tynnu Jay Fulton oddi ar y cae ac nad yw wedi dioddef cyfergyd.

Bydd yr Elyrch yn gobeithio na fydd y ddau yn ymuno â’r rhestr o chwaraewyr sydd allan am gryn amser – rhestr sydd eisoes yn cynnwys enwau Leroy Fer, Tom Carroll, Jefferson Montero a Wilfried Bony.

Taith i Stoke nos Fawrth yw her nesa’r Elyrch wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar y chweched safle yn y tabl.