Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock yn mynnu bod ei dîm yn “haeddu” herio timau fel Chelsea yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Dyma dymor cynta’r Adar Gleision yn eu hôl yn y brif adran, ac maen nhw’n herio’r tîm arall mewn glas, sy’n ail yn y tabl ar hyn o bryd.

Mae’r Adar Gleision, yn y cyfamser, heb fuddugoliaeth mewn chwe gêm.

Ar drothwy’r gêm, dywedodd Neil Warnock, “Mae’r prif dimau bob amser yn cael llawer o feddiant, felly byddwn ni dan bwysau am amser hir, ond rhaid i ni ddod o hyd i ddatrysiad.

“Rydyn ni wedi ennill yr hawl i chwarae yn erbyn timau fel Chelsea.

“Bydd hi’n ddiddorol gweld sut ydyn ni’n ymdopi yn Stamford Bridge dan ei sang.”

Y timau

Gallai dau o chwaraewyr yr Adar Gleision ddychwelyd i’r tîm ar ôl gwella o anafiadau.

Mae Josh Murphy wedi bod allan ag anaf i linyn y gâr, tra bod Aron Gunnarsson ar gael ar ôl cyfnod allan ag anaf i’w benglin, yr un anaf ag sy’n cadw Nathaniel Mendez-Laing allan ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i Cesc Fabregas fod ar y fainc ar ôl gwella o anaf i’w benglin, ond mae amheuon am ffitrwydd Ruben Loftus-Cheek, sydd wedi anafu ei grimog.

Gemau’r gorffennol

Mae Chelsea wedi ennill 10 allan o’r 12 gêm flaenorol rhwng y timau yn y gynghrair, gan gynnwys y ddwy gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2013-14.

Mae Caerdydd wedi colli pedair gêm yn olynol yn y gynghrair yn Chelsea.

Dydyn nhw ddim wedi ennill yn Stamford Bridge ers eu buddugoliaeth o 1-0 yn 1981, eu hunig fuddugoliaeth mewn naw ymweliad yn y gynghrair. Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yng Nghwpan y Gynghrair yn 1986.

Pe na bai’r Adar Gleision yn ennill heddiw, byddai Neil Warnock yn dioddef ei rediad hwyaf (11 gêm) heb fuddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair.