Dydy capten Cymru, Ashley Williams ddim wedi’i gynnwys yn y garfan o 23 o chwaraewyr i herio Denmarc yn Aarhus yn ddiweddarach heddiw (dydd Sul, 5 o’r gloch).

Teithiodd yr amddiffynnwr canol gyda’r garfan, ond mae Ben Woodburn wedi’i gynnwys ymhlith y 23 yn ei le.

Enillodd Ashley Williams gap rhif 84 ei yrfa ryngwladol yn y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd nos Iau.

Mae disgwyl i James Chester gymryd ei le yn y tîm, a’r dyfalu yw mai Gareth Bale fydd yn arwain y tîm yn ei absenoldeb.