Mae Cymru’n edrych ymlaen yn llawn hyder at herio tîm cyntaf Denmarc yfory, yn ôl y chwaraewr canol cae Joe Allen.

Ar un adeg roedd yn ymddangos y byddai anghydfod ynghylch hawliau masnachol pêl-droedwyr yn y wlad yn golygu mai tîm o chwaraewyr o gynghreiriau is a fyddai’n wynebu Cymru.

Collodd tîm o’r fath o Denmarc 3-0 yn erbyn Slofacia mewn gêm gyfeillgar ddydd Mercher, ond mae Christian Eriksen a’i gwmni’n ôl yn erbyn Cymru.

“Ro’n i’n amau y byddai’r mater wedi’i ddatrys cyn ein gêm ni, a dyna sydd wedi digwydd,” meddai Joe Allen.

“Y neges oedd canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gêm Iwerddon, ond allech chi ddim peidio â chadw llygad ar beth oedd yn digwydd.

“Mae hi bob amser yn wych pan mae dwy gêm, yn enwedig pan ydych chi’n gwneud cystal yn y gêm gyntaf.

“Fe fyddwn ni’n llawn ysbryd cadarnhaol a hyder yn yr ail ddydd Sul.”

Chwaraewyr ifanc

Yn ôl Joe Allen, Ryan Giggs yw’r rheolwr perffaith i hyrwyddo’r chwaraewyr ifanc a wnaeth gymaint o argraff yn erbyn Iwerddon nos Fercher.

Yn eu plith roedd Ethan Ampadu (17 oed), Chris Mepham (20), David Brooks (21) a Connor Roberts (22) a gyfrannodd at y fuddugoliaeth 4-1 yng Nghaerdydd. Cafodd Matthew Smith (18) a Tyler Roberts (19) hefyd glod fel eilyddion.

“Mae gan Ryan lawer o ffydd yn y bois ifanc,” meddai Joe Allen.

“Fe roddodd gyfle i chwaraewyr ifanc ar unwaith pan gymerodd drosodd United am ychydig gemau – roedd Tom Lawrence yn un.

“Mae’n siwr fod hyn o ganlyniad i’r cyfle a gafodd ef ei hun fel chwaraewr ifanc yn y ‘Class of 92’ – does dim gwell enghraifft o roi cyfle i bobl ifanc.

“Mae’r genedl am fod mewn dwylo da wrth symud ymlaen, gan fod llawer o’r bois hyn am fod o gwmpas am flynyddoedd lawer.”