Mae Cymru wedi sgorio deirgwaith yn ystod hanner cyntaf eu gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd heno.
Fe ddaeth y gôl gyntaf wedi pum munud a hanner gan Tom Lawrence, cyn i Gareth Bale sgorio wedi 17 munud.
Cymru sydd wedi cael y gorau o’r meddiant yn yr hanner cyntaf, heb roi fawr o gyfle i’r ymwelwyr wneud argraff.
Mae Ashley Williams wedi bod yn bresenoldeb amlwg yn yr amddiffyn, ynghyd ag Ethan Ampadu yn gwneud yn siwr fod y bêl yn cael ei phasio i fyny’r cae at y llinell flaen.
Fe ddaeth trydedd gôl Cymru yn yr hanner cyntaf o ergyd gan Aaron Ramsey wedi 37:65 munud.
Fe allai Gareth Bale wedi sgorio beth bynnag ddwy gôl arall, gydag ergydion peryglus wedi 33:40 a 36 munud.