Mae rheolwr tîm pêl droed Cymru, Ryan Giggs, yn disgwyl gêm “anarferol” yn erbyn Denmarc dros y penwythnos.

Oherwydd ffrae rhwng chwaraewyr Denmarc a’u cymdeithas bêl-droed, bydd y tîm a fydd yn wynebu Cymru ddydd Sul (Medi 9) o ansawdd llawer is.

Bydd chwaraewyr o gynghreiriau is a chwaraewyr futsal – pêl-droed dan do pum bob ochr – yn eu plith, ac yn ôl Ryan Giggs dyw’r sefyllfa ddim yn “ddelfrydol”.

“Pa fath o dîm fyddwn ni’n ei wynebu? Dw i ddim yn gwybod,” meddai Ryan Giggs.

“Mae ‘na rhan ohona i sy’n ffyddiog y gwawn nhw ddelio â’r sefyllfa. Ond wrth i ni agosáu at y gêm, mae hynny’n edrych yn llai tebygol.

“Ta waeth. Mae gennym ni gêm fawr yn erbyn Iwerddon yn gyntaf, a dw i am ganolbwyntio’n llwyr ar hynny.”

Iwerddon

Cyn gêm dydd Sul, bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd fory (dydd Iau, Medi 6).

Hon fydd gêm gartref cyntaf Cymru â Ryan Giggs wrth y llyw, ac mae’r rheolwr yn dweud y bydd yn “foment o falchder personol” iddo.

Mae’n debyg bod Gareth Bale – un o brif chwaraewyr Cymru – yn holliach, a bydd ef yn rhan o’r tîm a fydd yn chwarae yfory.