Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi dweud na fydd e’n colli cwsg yn meddwl am y gemau anodd sy’n wynebu ei dîm dros yr wythnosau nesaf.

Eu tri gwrthwynebydd nesaf yw Arsenal ddydd Sul, Chelsea a Man City, ond dydy’r Adar Gleision ddim wedi sgorio’r un gôl yn yr Uwch Gynghrair eto’r tymor hwn.

Wrth ymateb i’r sefyllfa, dywedodd Neil Warnock fod gan ei dîm “33” gêm anodd, ac nid dim ond tair.

“Rydych chithau’n edrych ar y timau,” meddai wrth y wasg, “ond os ydych chi’n gadael i’r peth eich poeni, fyddech chi byth yn cysgu yn y nos.

“Rhaid i ni edrych ar hyn fel her a cheisio creu cyfleoedd yn erbyn y timau mawr.

“Ry’n ni’n gwybod y byddan nhw’n cael cryn dipyn o’r meddiant a fydd hi ddim yn fater o barcio’r bws o’n safbwynt ni, oherwydd mae gan y timau hyn gryn dipyn o ansawdd.”

Y Bencampwriaeth

Cafodd Caerdydd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y tymor hwn ac mae’r rheolwr am edrych ymlaen ac nid yn ôl.

“Fe allai fod yn waeth. Fe allen ni fod yn y Bencampwriaeth yn teithio ar hyd a lled y wlad.

“Dw i’n sicr yn mynd i fwynhau mynd i’r caeau hyn ac yn fy oedran i, dw i am weld fy nhîm yn chwarae pêl-droed dda.”

Dywedodd mai fe, ac nid y chwaraewyr, sy’n bennaf gyfrifol am ddiffyg goliau’r tymor hwn. Fe fydd e heb nifer o’r chwaraewyr allweddol, gan gynnwys Nathaniel Mendez-Laing sydd wedi anafu ei benglin, ac Aaron Gunnarsson.

Mae amheuon hefyd am ffitrwydd Junior Hoilett.