Fe fydd tîm pêl-droed Abertawe’n ceisio gwyrdroi wythnos siomedig pan fyddan nhw’n teithio i Millwall ar gyfer gêm yn y Bencampwriaeth nos Sadwrn (5.30).

Collon nhw am y tro cyntaf yn y gynghrair ddydd Sadwrn diwethaf, a hynny o 1-0 wrth groesawu Bristol City i Stadiwm Liberty. Ac fe gollon nhw o 1-0 gartref yn erbyn Crystal Palace yng Nghwpan Carabao ganol yr wythnos.

Cyn hynny, roedden nhw wedi cael gemau cyfartal yn erbyn Birmingham a Leeds yn dilyn buddugoliaethau dros Sheffield United a Preston.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Millwall yn cryfhau eu safle yn y gynghrair, yn ôl y rheolwr Graham Potter.

“Mae gwaith i’w wneud o hyd i wella, fel hyfforddwyr a chwaraewyr ar y cyfan.

“Ry’n ni’n mynd i barhau i weithio ac ry’n ni’n edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Millwall.

“Mae’n le anodd i fynd iddo ond pe baen ni’n gallu ennill, byddai’n rhoi 11 pwynt i ni o chwe gêm gynta’r tymor, fyddai’n cyfateb i ddechrau da i ni.”

Y gwrthwynebwyr

Roedd yr Elyrch yn fuddugol ym Millwall y tro diwethaf iddyn nhw fynd yno yn 2011.

Ond mae Millwall, o dan eu rheolwr Neil Harris, wedi colli un gêm gartref yn unig mewn 17 gêm.

Cawson nhw gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ac fe guron nhw Derby eisoes, ac maen nhw hefyd wedi curo Gillingham a Plymouth yn y gwpan.

Dywedodd Graham Potter ei fod yn disgwyl “prawf go iawn” yn eu herbyn.

“Maen nhw’n drefnus iawn ac wedi’u trwytho’n dda, ac mae ganddyn nhw syniad go dda o sut i ddefnyddio’u cryfderau.”

Y tîm

Ar ôl gwneud 10 newid i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Crystal Palace, fe fydd Graham Potter yn sicr o newid yn ôl i’w dîm cryfaf ar gyfer y gêm.

Ond fydd dewis y tîm ddim yn hawdd ar ôl i nifer o chwaraewyr ifainc ddangos eu doniau yn y gêm gwpan.

Tom Carroll oedd yr unig un a gadwodd ei le ar gyfer y gêm o’r tîm a gollodd yn erbyn Bristol City.

Ac fe all fod wyneb newydd yn y tîm, gyda’r amddiffynnwr canol Cameron Carter-Vickers yn gobeithio bod yn holliach i chwarae am y tro cyntaf ers iddo symud ar fenthyg o Spurs.