Mae Cian Harries wedi canmol Clwb Pêl-droed Abertawe am ei helpu i ddatblygu fel chwaraewr.

Ymddangosodd y Cymro ifanc yn y tîm cyntaf am y tro cyntaf neithiwr (nos Fawrth, Awst 28) wrth i Abertawe golli o 1-0 yn erbyn Crystal Palace yng Nghwpan Carabao.

Roedd yr amddiffynnwr canol yn un o nifer o chwaraewyr ifainc a gafodd gyfle i ddangos eu doniau yn absenoldeb rhai o’r chwaraewyr mwy profiadol.

Ymunodd e â’r Elyrch o Coventry haf diwethaf, ac mae’n dweud bod angen iddo gymryd cam yn ôl er mwyn cael cymryd dau gam ymlaen yn ei yrfa.

“Dw i’n hapus iawn o fod wedi chwarae yn fy ngêm gyntaf,” meddai, “Dw i ar ben fy nigon.

“Dw i wedi bod yma ers blwyddyn bellach, ac wedi bod yn edrych ymlaen at y foment hon ers i fi gerdded i mewn drwy’r drws.”

Yn ogystal â chanmol y clwb, mae Cian Harries hefyd wedi cyfeirio at ddylanwad y rheolwr newydd, Graham Potter ar ei ddatblygiad.

“Dw i’n credu ’mod i wedi dod yn ôl yn well chwaraewr o lawer ar y cyfan, felly dw i’n credu bod y symudiad yn un llwyddiannus i fi.

“Mae’r rheolwr wedi bod yn wych. Mae e wedi dangos ei fod e’n barod i daflu chwaraewyr i mewn i’r pen dwfn.”