Mae Hal Robson-Kanu wedi cyhoeddi ‘neges i’r genedl’ yn dilyn ei ymddeoliad o bêl-droed ryngwladol.

Daeth ei gyhoeddiad wrth iddo gael ei hepgor o’r garfan ar gyfer y gêmau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Yn ei neges ar y we, dywedodd: “Dw i’n ddiolchgar o fod wedi byw breuddwyd wrth gynrychioli fy ngwlad ar lefel ryngwladol.”

‘Braint ac anrhydedd’

Sgoriodd y blaenwr bum gôl mewn 44 o gemau dros ei wlad, gan gynnwys dwy gôl allweddol yn Ewro 2016 – a’i gôl yn erbyn Gwlad Belg yn cael ei dewis yn gôl orau’r gystadleuaeth.

“Bu’n fraint ac yn anrhydedd cael tynnu’r crys ymlaen, wedi fy nghefnogi gan falchder go iawn ac angerdd heb ei ail,” meddai yn y neges.

“Balchder o gyflawni rhywbeth doedd neb yn credu y gallen ni ei gyflawni, ac angerdd o fod yn un genedl #gydangilyddyngryfach.”

Dywedodd ei fod e wedi penderfynu ymddeol ar ôl “meddwl yn hir”, a hynny am resymau teuluol ac er mwyn canolbwyntio ar chwarae i’w glwb, West Brom.

Ryan, Chris a Gary

Fe ddiolchodd hefyd i reolwr presennol Cymru, Ryan Giggs am “ei ddealltwriaeth a’i gefnogaeth”, gan ddymuno’n dda i’r tîm ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y gall “cenhedlaeth newydd adeiladu ar yr hyn wnaeth Gary Speed a Chris Coleman ei roi yn ei le”.

Wrth ddiolch yn fwy cyffredinol, ychwanegodd: “Dyma nodyn byr i ddweud Diolch i bob unigolyn a chefnogwr ein cenedl falch.

“O golledion i dorcalon i orfoledd a llawenydd. Edrychaf ymlaen at gael dod yn un ohonoch chi ac yn syml iawn, dw i’n falch o fod wedi chwarae fy rhan yn ein taith.”