Mae adfywiad Gareth Bale gyda chlwb pêl-droed Real Madrid yn ddiweddar yn profi bod ganddo’r cymeriad i fod yn gapten ar Gymru, yn ôl cyn-chwaraewr.

Daw’r sylw hwn gan y canolwr Simon Davies, a oedd yn rhan o dîm Cymru pan wisgodd Gareth Bale y crys coch am y tro cyntaf ym mis Mai 2006, ac yntau ond yn 16 oed.

Yn ystod y misoedd diwetha’, mae’r chwaraewr 29 oed o Gaerdydd wedi cael tymor llwyddiannus gyda Real Madrid, ar ôl iddo sgorio dwy gôl yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Lerpwl ym mis Mai.

Ers hynny, mae’r rheolwr Zinedine Zidane a’r blaenwr Cristiano Ronaldo wedi gadael y clwb, sy’n golygu mai Gareth Bale bellach yw un o’r prif chwaraewyr.

“Arweinydd”

Mae Simon Davies yn darogan tymor da i Gareth Bale eleni, a hynny ar yr amod ei fod yn cadw’n rhydd o unrhyw anafiadau.

Mae’n ychwanegu hefyd fod y canolwr mewn safle da i olynu Ashley Williams yn gapten Cymru pan fydd hwnnw’n gadael y llwyfan rhyngwladol.

“Mae Gareth, yn sicr, yn arweinydd,” meddai wrth siarad mewn digwyddiad pêl-droed yn Baglan.

“Rydych chi’n gallu gweld ei fod yn caru chwarae i Gymru, a dyw e byth yn colli gêm os nad yw e’n dioddef o anaf.

“Pan fydd Ash yn penderfynu rhoi’r gorau i chwarae, dw i’n methu â gweld neb heblaw am Gareth yn cymryd yr awenau.”