Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi cyfaddef nad oedd ei dîm yn ddigon da wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn Bristol City yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn – y tro cyntaf iddyn nhw golli’r tymor hwn.

Sgoriodd Andreas Weimann unig gôl y gêm yn y funud gyntaf wrth i’r ymwelwyr gipio’r triphwynt.

Roedd yr Elyrch yn fwy ymosodol yn yr ail hanner, ond doedd hynny ddim yn ddigon wrth iddyn nhw fethu â thorri drwy amddiffyn y Saeson.

Dywedodd Graham Potter, “Nid dyna’r dechrau gorau, dyna’r peth cyntaf sydd yn rhaid ei ddweud.

“Gall hynny ddigwydd mewn pêl-droed, ond mae’n destun siom ac mae’n rhaid i ni wella ar hynny.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi gwella rywfaint am 20 neu 30 munud er nad oedden ni ar ein lefel [arferol].

“Ar ddiwedd yr hanner cyntaf, roedd Bristol City yn fwy peryglus, ac fe allen nhw fod wedi ymestyn eu mantais.

“Yn yr ail hanner, roedd angen i ni newid pethau. Roedden ni braidd yn fflat yn yr hanner cyntaf – roedd yn un o’r diwrnodau hynny pan nad oedd yn gweithio i ni.”

Ond ychwanegodd mai’r “gwironedd yw nad oedden ni wedi gwneud digon i gael unrhyw beth allan o’r gêm, ac mai Bristol City “oedd y tîm gorau”.

‘Blinder’

Dywedodd Graham Potter nad yw blinder yn esgus ar gyfer perfformiad y tîm, er eu bod nhw’n chwarae ddwywaith yr wythnos yn y Bencampwriaeth.

“Mae pawb yn chwarae ar ddydd Sadwrn a dydd Mawrth,” meddai.

“Wnaeth y gôl gynnar ddim helpu i greu’r awyrgylch na’r ffocws.

“Yr hyn ry’n ni’n ceisio’i wneud yw cynnal cysondeb yn ein perfformiadau. Dyna’r her ac mae gwaith gyda ni i’w wneud.

“Gall y pethau hyn ddigwydd gyda chriw newydd neu griw ifanc o chwaraewyr, ond rhaid i ni feddu ar y gallu i fwrw ati unwaith eto.”

‘Di-drefn’

Ac mae Mike van der Hoorn, yr is-gapten – a chapten y tîm ar gyfer y gêm – wedi cyfaddef nad oedd y tîm yn barod ar gyfer y gêm.

“Yn ystod hanner cynta’r gêm, roedd hi’n amlwg nad oedden ni’n barod. Fe welsoch chi hynny o ran y gôl. Roedd yn rhy hawdd o lawer ac fe gostiodd y gêm i ni yn y pen draw.

“Dw i’n credu ein bod ni’n ddi-drefn. Wnaethon ni ddim creu digon o gyfleoedd ac roedd Bristol City yn gadarn.

“Rhaid i ni ddarganfod ffordd o wella a symud ymlaen.

“Rhaid i ni adeiladu ar ein perfformiad yn yr ail hanner, ond peidio ag anghofio gwella ar yr hyn ddigwyddodd yn yr hanner cyntaf.

“Mae’r adran hon yn anodd. Mae’r gemau’n dod yn gyson ac yn gyflym, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer pob un gêm.”