Mae safon Uwch Gynghrair Bêl-droed Cymru yn parhau i wella, ond “does dim amheuaeth” bod yna le i wella o hyd.

Daw sylw Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru, yn sgil lansiad digidol y gynghrair ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Rydyn ni yn gweld gwelliant o flwyddyn i flwyddyn, ond does dim amheuaeth bod angen gwelliant pellach arnom ni,” meddai wrth golwg360.

“A be rydan ni’n trio gwneud yw helpu safonau ar y cae, ac oddi arno. Wrth gwrs mae elfen Gymreig y gystadleuaeth yn bwysig, ac rydym ni’n ceisio pwysleisio hynny hefyd.”

Lansio

Y llynedd, fe gafodd y gynghrair ei lansio trwy ddigwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, gyda sawl chwaraewr yn cymryd rhan.

Doedd dim lansiad tebyg ar faes y brifwyl eleni.

Yn ôl Gwyn Derfel mi gafodd lansiad y llynedd “dderbyniad da” a “chroeso mawr”, ond penderfynodd y gynghrair i gynnal lansiad digidol gan fod “gymaint o ddylanwad gan gyfryngau cymdeithasol”.

Mae deuddeg clwb ynghlwm â’r gynghrair, ac mi fydd ei 27ain tymor yn dechrau’n swyddogol ar nos Wener (Awst 10) – gêm rhwng Caernarfon a Llanelli fydd hi.