“Does dim byd mwy i’w ddweud” meddai Clwb Pêl-droed Bangor wrth golwg360 ar ôl i’r Uchel Lys wrthod ail gais i’w dirwyn i ben.

Gwrthododd yr Uchel Lys y cais cyntaf gan Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ym mis Mehefin, ar ôl i’r clwb dalu bil treth ychydig ddiwrnodau’n hwyr.

Cafodd y clwb eu taflu allan o Uwchgynghrair Cymru’n gynharach eleni am resymau ariannol ar ôl iddyn nhw fethu â chael trwydded. Maen nhw bellach wedi gostwng i Gynghrair Undebol Huws Gray.

Ond fe ddyfarnodd yr Uchel Lys o’u plaid unwaith eto heddiw, wrth i’r tîm baratoi i herio Bwcle ddydd Sadwrn.

Ymateb y clwb

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb wrth golwg360, “Mae wedi cael ei daflu allan. Does dim byd mwy i’w ddweud.

“Mae gynnon ni gêm fawr ddydd Sadwrn i baratoi ar ei chyfer.”