Mae Sam Ricketts wedi ennill ei gêm gyntaf yn rheolwr ar dîm Wrecsam, wrth iddyn nhw guro Dover oddi cartref o 1-0 yn y Gynghrair Genedlaethol.
Roedd dau chwaraewr newydd yn allweddol i’r canlyniad, wrth i’r ymosodwr Mike Fondop-Talom sgorio unig gôl y gêm ar ôl 28 munud.
Y pen arall, roedd arbediad hollbwysig gan y golwr newydd, Rob Lainton i arbed cic o’r smotyn gan Inih Effiong.
Daeth cyfle hwyr i’r Saeson, ond roedd trosedd ar y golwr gan yr ymosodwr Jamie Allen.
Dover: Walker, Brundle, Nortey, Essam, Passley, Gomis (Daniel, 74), Lokko, Schmoll, Connors, Effiong (Diarra, 90+1), Allen
Cardiau melyn: Gomis, Schmoll
Wrecsam: Lainton, Roberts, Jennings, Young, Pearson, Smith, Summerfield, Rutherford (Carrington, 82), Wright, Beavon (Maguire-Drew, 58), Fondop-Talom (Pyke, 80)
Goliau: Fondop-Talom (29)
Torf: 1,359