Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi ymateb i feirniadaeth gan un o’i gyn-chwaraewyr yn Derby drwy ei alw’n “rhy drwm a diog”.

Roedd Darren Bent yn ddadansoddwr ar SKY Sports pan oedd yn trafod cyfnod Paul Clement wrth y llyw yn Derby. Parodd y rheolwr wyth mis yn unig cyn cael ei ddiswyddo.

Dywedodd Darren Bent: “Roedd hi’n anochel y byddai’n chwalu (yn Derby). Roedd yr ymarferion wedi newid a’i athroniaeth ers cyn dechrau’r tymor wedi mynd allan drwy’r ffenest am nad oedden ni’n cael y canlyniadau cywir. Ac yn y pen draw, doedd e ddim yn hoffi gwrthdaro.”

Ymateb

Cafodd sylwadau Darren Bent eu trydar gan ohebydd The Sun, Jordan Davies, gan ychwanegu fod geiriau Darren Bent yn “giaidd”.

Wrth ymateb i neges Jordan Davies, dywedodd Paul Clement, sydd bellach yn rheolwr ar Reading, “Dw i’n synhwyro ychydig o chwerwder fan hyn, sy’n arferol os nad yw chwaraewr yn chwarae ryw lawer. Dyw e byth yn benderfyniad anodd i adael chwaraewr allan sydd yn rhy drwm ac yn ddiog.”