Fe fydd y tymor pêl-droed yn dechrau heddiw i dri o dimau Cymru sy’n chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed.

Ar ôl disgyn i’r Bencampwriaeth, fe fydd Abertawe o dan arweiniad y rheolwr newydd, Graham Potter mewn gêm gystadleuol am y tro cyntaf, wrth iddyn nhw deithio i Sheffield United yn y Bencampwriaeth.

Taith i Mansfield sydd gan Gasnewydd yn yr Ail Adran, tra bod Wrecsam yn teithio i Dover ar gyfer eu gêm nhw yn y Gynghrair Genedlaethol.

Sheffield United v Abertawe (5.30yh)

Mae cyfnod o ailadeiladu o flaen rheolwr newydd Abertawe, Graham Potter, ar ôl colli 13 o chwaraewyr yn sgil y gwymp o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.

Ac mae cryn ddyfalu y gallen nhw golli Sam Clucas i Burnley hefyd.

Ond fe fydd wynebau newydd yr Elyrch – Bersant Celina, Joel Asoro a Barrie McKay yn dod ag egni newydd i’r garfan sydd eisoes wedi colli rhai o’r hoelion wyth gan gynnwys Leon Britton, Angel Rangel, Alfie Mawson, Lukasz Fabianski, Andre Ayew a Ki Sung-yueng.

Fe fydd Federico Fernandez yn chwarae heddiw, er iddo fe gael ei gysylltu â throsglwyddiad i ffwrdd o’r clwb, ond mae amheuon am ffitrwydd Kyle Naughton, sydd wedi anafu cyhyr yn ei goes.

Ac fe fydd yr Elyrch yn herio’r Cymro Ben Woodburn, fydd yn dechrau am y tro cyntaf ar ôl symud ar fenthyg i Sheffield United o Lerpwl.

O safbwynt Sheffield United, fe fyddan nhw heb y chwaraewr canol cae Paul Coutts, sydd wedi torri ei goes. Gallai John Egan, David McGoldrick a Dean Henderson ddechrau eu gêm gyntaf ar ôl symud i’r clwb dros yr haf.

Dydy Abertawe ddim wedi curo Sheffield United ar eu tomen eu hunain ers 1939.

Mansfield v Casnewydd (3 o’r gloch)

Mae gan Gasnewydd wyth o chwaraewyr a allai chwarae eu gêm gyntaf i’r clwb, wrth iddyn nhw deithio i Mansfield.

Yn eu plith mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Andrew Crofts, sydd wedi’i enwi’n gapten yn sgil ymadawiad Joss Labadie.

O safbwynt Mansfield, mae amheuon am ddyfodol Danny Rose, sydd wedi gwneud cais i adael y clwb, ond maen nhw’n gobeithio y bydd eu capten, Krystian Pearce ar gael ar ôl iddo ddioddef sarhad hiliol honedig yn erbyn Sheffield Wednesday mewn gêm gyfeillgar yn ddiweddar.

Dover v Wrecsam (3 o’r gloch)

Mae rheolwr newydd Wrecsam, Sam Ricketts wedi dweud ei fod yn targedu dyrchafiad y tymor hwn, ac yntau’n paratoi i arwain y tîm mewn gêm gystadleuol am y tro cyntaf.

Cafodd ei enwi’n olynydd i Dean Keates ym mis Mai.

Roedd Wrecsam yn ddegfed yn y tabl y tymor diwethaf, gan orffen bedwar pwynt islaw’r safloedd ail gyfle.

Mae nifer o wynebau newydd yn y garfan erbyn hyn, gan gynnwys yr ymosodwr Mike Fondop, a’r chwaraewyr canol cae Luke Young a Luke Summerfield.