Fe all Gareth Bale lenwi esgidiau Cristiano Ronaldo yn Real Madrid, yn ôl prif hyfforddwr newydd y clwb, Julen Lopetegui.

Mae’r blaenwr o Bortiwgal newydd ymuno â chlwb Juventus, a hynny ar ôl cyfnod o naw mlynedd gyda chlwb prifddinas Sbaen.

Yr unig ymosodwr arall sydd gan Real Madrid yr haf hwn, ar wahân i Gareth Bale, yw’r bachgen 18 oed o Frasil, Vinicius Junior, ac mae disgwyl i Gareth Bale dderbyn mwy o gyfrifoldebau.

“Chwaraewr arbennig”

“Mae Gareth yn hapus i chwarae yn Real Madrid,” meddai Julen Lopetegui mewn cynhadledd i’r wasg heddiw.

“Mae Cristiano Ronaldo yn un o’r prif chwaraewyr yn hanes diweddar Real Madrid – fe fynegodd awydd i adael, ac fe wnaethom ni ei adael i wneud hynny.

“Mae Gareth Bale yn chwaraewr arbennig, gyda chymaint o nodweddion.

“Mae modd iddo fe lenwi’r bwlch.”