Mae swyddogion pêl-droed yn Qatar wedi cael eu cyhuddo o geisio dinistrio ceisiadau gwledydd eraill wrth ddenu Cwpan y Byd i’r wlad yn 2022.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaethon nhw dorri rheolau FIFA, y corff llywodraethu, drwy gynnal ymgyrch gudd yn erbyn nifer o’u gwrthwynebwyr.

Daw’r honiadau mewn erthygl yn y Sunday Times, sydd wedi gweld dogfennau’n ymwneud â’r twyll honedig.

Yn ôl yr erthygl, defnyddiodd swyddogion Qatar asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus a chyn-swyddogion y CIA i ledaenu propaganda ffug am yr Unol Daleithiau ac Awstralia.

Mae’r asiantaeth wedi’i chyhuddo o ddenu enwogion i ladd ar y ceisiadau, gan awgrymu nad oedd digon o gefnogaeth yn y gwledydd hynny i’r ceisiadau fod yn llwyddiannus.

Mae honiadau hefyd fod athrawon ymarfer corff yn yr Unol Daleithiau wedi cael eu recriwtio i ddwyn pwysau ar lywodraeth y wlad i wrthwynebu’r cais ar sail cost uchel y gystadleuaeth.

Mae swyddogion Qatar wedi gwadu’r honiadau.

Lloegr yn lladd ar Qatar

Mae cyn-gadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, yr Arglwydd Triesman wedi galw am wahardd Qatar rhag cynnal y gystadleuaeth os oes tystiolaeth fod yr adroddiadau’n wir.

Pe baen nhw’n cael eu gwahardd, meddai, fe allai Lloegr gynnal y gystadleuaeth yn eu lle.

Yn ôl FIFA, maen nhw eisoes wedi cynnal ymchwiliad i gais Qatar, a doedden nhw ddim wedi torri unrhyw reolau.