Mae Clwb Pêl-droed Ceinewydd wedi cyhoeddi apêl o’r newydd am chwaraewyr – a hynny ddwy flynedd yn unig wedi’r tro diwethaf.

Bryd hynny, roedd pryder y gallai’r clwb ddechrau’r tymor heb fod wedi cofrestru’r un tîm am y tro cyntaf yn eu hanes. Fe gafwyd dipyn o ymateb i’r apêl, ac fe lwyddodd y clwb i barhau i gynnal gemau am ddau dymor heb fawr o drafferth.

Ond mae prinder chwaraewyr yn bygwth taflu cysgod dros y clwb unwaith eto ar drothwy’r tymor newydd.

Datganiad

Mewn datganiad, dywedodd y rheolwr Charles Lloyd Harvey: “Dyma fi, ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn gwneud apêl arall am chwaraewyr gan ein bod ni, unwaith eto, yn wynebu prinder chwaraewyr difrifol ac, o bosib, terfyn ar bêl-droed i oedolion yng Nghlwb Pêl-droed Ceinewydd.”

Apeliodd ar ddarpar-chwaraewyr i ymuno â’r clwb ar gyfer sesiynau hyfforddi ar y cae pêl-droed lleol bob nos Fercher rhwng 6.30yh a 7.30yh.

“Ifanc (15+), hen, o’r ardal, ddim o’r ardal, wedi chwarae i dîm arall y llynedd, wedi chwarae i ni’r llynedd – fe fydd croeso mawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r clwb a diogelu ei ddyfodol.

“Plis helpwch ni i gynnal Clwb Pêl-droed Ceinewydd a sicrhau bod gan bêl-droed ddyfodol yn ein cymuned.”