Mae dau arall o chwaraewyr tîm pêl-droed Abertawe wedi gadael y clwb ar ôl iddyn nhw ostwng i’r Bencampwriaeth.

Mae’r amddiffynnwr canol Kyle Bartley wedi ymuno â West Brom ar gytundeb tair blynedd, tra bod yr ymosodwr Borja Baston wedi ymuno ar fenthyg â chlwb Alaves yn Sbaen.

Mae lle i gredu bod West Brom wedi talu tua £4 miliwn am Kyle Bartley.

Ymunodd e ag Abertawe o Arsenal yn 2012, gan chwarae mewn dim ond 21 o gemau yn y gynghrair ers hynny, gan dreulio tymor cyfan ar fenthyg yn Leeds yn 2016-17.

Mae adroddiadau y gallai’r chwaraewr canol cae Sam Clucas ymuno â Burnley wrth i reolwr newydd Abertawe, Graham Potter barhau i asesu ei garfan ar gyfer eu tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth.

Yn y cyfamser, mae hi’n debygol na fydd y Cymro Harry Wilson yn symud i Abertawe, a’i fod e ar ei ffordd ar fenthyg at Derby.