Mae Alan Curtis wedi dweud ei fod e wrth ei fodd o gael ei benodi’n is-hyfforddwr i reolwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Graham Potter.

Fe fu’n gyfrifol, yn ei swydd ddiweddara’ gyda’r clwb, am y chwaraewyr sydd wedi gadael ar fenthyg, a hynny fel rhan o staff y ddau reolwr blaenorol, Paul Clement a Carlos Carvalhal.

Ond ar ôl i’r Elyrch ostwng i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor diwethaf, a phenodiad Graham Potter yn lle Carlos Carvalhal, mae’r Cymro’n dychwelyd i ymyl y cae.

Roedd Graham Potter eisoes wedi penodi Billy Reid yn is-reolwr a Kyle Macauley yn ddadansoddwr recriwtio’r clwb.

Ond mae Alan Curtis yn dod â thros 40 mlynedd o brofiad a gwybodaeth am y clwb i’w swydd, ac yntau wedi dal bron bob swydd bosib ar hyd y blynyddoedd.

Ac yntau’n rhoi’r gorau i’w swydd flaenorol i ymgymryd â’i gyfrifoldebau newydd, fe ddaeth cadarnhad y bydd e’n parhau i fod ynghlwm wrth Lolfa Anfarwolion y clwb yn Stadiwm Liberty.

‘Compliment mawr’

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd Alan Curtis: “Dw i wrth fy modd cael dychwelyd i blith y staff hyfforddi. Mae’n gompliment mawr cael fy ngofyn gan Graham.

“Fy ngwaith yw bod yn gyswllt rhwng y staff a’r chwaraewyr, a hefyd ymhlith y staff.

“Dw i’n credu ei bod yn bwysig cael yr awyrgylch yn iawn oddi ar y cae fel ein bod ni’n tynnu i’r un cyfeiriad pan awn ni ar y cae.

“[Graham Potter] yw’r rheolwr newydd ac mae e am osod ei stamp ar bethau. Gyda ’mhrofiad i yn y gorffennol a’m gwybodaeth o’r clwb, mae e’n teimlo y galla i fod yn gaffaeliad iddo fe.

“Mae ganddo fe ei syniadau ei hun o ran lle mae e am i’r clwb fynd, sut mae e am gyrraedd yno a sut mae e am i’r tîm chwarae.

“Dw i’n credu ei fod e am gael ethos yn y clwb sydd wedi bod ar goll dros y tymhorau diwethaf.

“Dw i wedi bod gyda’r clwb ers amser hir iawn. Os yw hynny’n galluogi Graham i ddod i adnabod y chwaraewyr yn well, deall awyrgylch y lle, dod i adnabod y clwb, y cefnogwyr a’r awyrgylch yn gyffredinol, yna gobeithio y gallwn ni gael tymor llwyddiannus.”

‘Uchel ei barch’

Ychwanegodd Graham Potter: “Dw i wedi adnabod Alan drwy ffrindiau cyffredin ers nifer o flynyddoedd, felly dw i’n gwybod pa mor uchel ei barch a pha mor bwysig yw e yn y clwb pêl-droed hwn.

“Does neb yn adnabod y clwb pêl-droed yn well na fe. Mae e’n dod â phrofiad a safon a fydd, gobeithio, yn werthfawr iawn i ni.

“Bydd e’n cefnogi’r awyrgylch yma. Mae e’n rhywun y gallwn ni i gyd dynnu ar ei brofiad, ei allu i fentora a’i gefnogaeth.

“Mae Alan yn berson pwysig i’w gael ar hyd y lle a dw i wedi cyffroi o gael gweithio gyda fe.”