Mae’r chwaraewr canol cae o Sbaen, Roque Mesa wedi symud yn barhaol o Abertawe i Sevilla.

Ymunodd y chwaraewr 29 oed â’r clwb ar fenthyg y tymor diwethaf, ac mae’n gadael de Cymru ar ôl blwyddyn yn unig.

Fe chwaraeodd mewn 16 o gemau ar ôl symud o Las Palmas yr haf diwethaf, ond fe ddychwelodd i’w famwlad ym mis Ionawr, gan chwarae mewn saith gêm.

Yn y cyfamser, mae asgellwr Abertawe, Kenji Gorre wedi ymuno â chlwb Nacional ym Mhortiwgal ar ôl i’w gytundeb ddirwyn i ben.

Fe chwaraeodd unwaith yn unig i’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair, a hynny fel eilydd ar ddiwrnod olaf tymor 2014-15.