Mae adroddiadau y gallai’r Cymro Aaron Ramsey adael Arsenal a symud i glwb Lazio yn yr Eidal.

Fe ddaw ei gytundeb presennol gyda’r clwb yn Llundain i ben yn 2019.

Mae lle i gredu fod yr Eidalwyr yn awyddus i’w arwyddo fel eilydd ar gyfer Sergej Milinkovic-Savic, y chwaraewr o Serbia sydd wedi denu cryn ddiddordeb yn ddiweddar ac sy’n cynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw Aaron Ramsey yn awyddus i aros gydag Arsenal.