Mae lle i gredu y gallai Gareth Bale aros yn Real Madrid – gan fod ei reolwr newydd, Julen Lopetegui, yn siarad Saesneg.

Roedd lle i gredu bod y Cymro yn barod i adael y Bernabeu a dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr, wrth i Man U ddatgan eu diddordeb.

Fe geisiodd e ddysgu Sbaeneg ar ôl symud i’r wlad yn 2013, ond ychydig iawn o hwyl gafodd e arni – oedd yn gwneud cyfathrebu â’r cyn-reolwr, y Ffrancwr Zinedine Zidane yn anodd, ac yntau’n methu siarad Saesneg.

Mae’r Cymro hefyd wedi dioddef yn sgil sawl anaf yn ddiweddar, ac fe gafodd ei enwi ymhlith yr eilyddion ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Lerpwl ar ddiwedd y tymor – er ei fod e’n holliach.

Serch hynny, fe greodd e argraff wrth ddod i’r cae a sgorio dwy gôl – gan gynnwys chwip o ergyd dros ei ben.

Rheolwr newydd

Ymddiswyddodd Zinedine Zidane ar ôl y gêm honno ac fe greodd y rheolwr newydd, Julen Lopetegui sioc drwy gael ei ddiswyddo gan Sbaen ar drothwy Cwpan y Byd am ei fod e wedi datgan diddordeb yn swydd rheolwr Real Madrid.

Bellach, mae lle i gredu bod Gareth Bale yn awyddus i aros gyda’r clwb o dan y rheolwr newydd, er bod y clwb hefyd yn awyddus i arwyddo Neymar a Mo Salah.