Mae adroddiadau y gallai West Ham arwyddo Lukasz Fabianski o Abertawe o fewn wythnos.

Fe fydd y golwr 33 oed yn teithio i Gwpan y Byd yn Rwsia gyda Gwlad Pwyl, wrth iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch yn erbyn Senegal ddydd Mawrth nesaf.

Mae lle i gredu bod yr Elyrch yn gofyn am £9 miliwn am y golwr, ond fod West Ham yn awyddus i dalu oddeutu £7 miliwn.

Gobaith West Ham yw cwblhau’r trosglwyddiad cyn hynny, cyn ei fod e’n creu argraff pe bai’n cael ei ddewis yn brif golwr ei wlad yng Nghwpan y Byd.

Maen nhw hefyd yn awyddus i arwyddo amddiffynnwr canol yr Elyrch, Alfie Mawson.

Mae lle i gredu bod y ddau ymhlith chwaraewyr Abertawe sydd am adael y clwb ar ôl iddyn nhw ostwng o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Jordan Ayew

Yn y cyfamser, mae adroddiadau bod Fulham wedi cynnig £8 miliwn am yr ymosodwr Jordan Ayew.

Symudodd ymosodwr Ghana at yr Elyrch o Aston Villa ar gytundeb tair blynedd a hanner fis Ionawr y llynedd.