“Rhaid i ni stopio cymharu ein hunain ag eraill” – dyna yw cyngor rheolwr newydd clwb pêl-droed Abertawe i’w chwaraewyr.

Bellach, mae’r Elyrch wedi cadarnhau mai Graham Potter fydd yn camu i’r adwy, a’n anelu i ddyrchafu’r clwb yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ystod ei gynhadledd gyntaf i’r wasg, mae’r ffigwr wedi amlinellu ei weledigaeth gan bwysleisio pwysigrwydd “hunaniaeth clwb”.

Hunaniaeth

“Mae angen cael syniad o’r hyn r’yn ni eisiau gwneud, a’r hyn r’yn ni eisiau gwireddu,” meddai.

“Dyw cael eich dyrchafu ddim yn beth hawdd, mae hynny’n sicr. Mae’r gynghrair yn un anodd, gyda chlybiau mawr, a rheolwyr a chyllid da.

“Er gwaetha’ fy nghyfenw, does gen i ddim gwialen hud! Rhaid i ni ddeall beth yw tîm Abertawe. Yna, jest mater o ennill y gêm nesa’ yw hi.”

Chwaraewyr

Mae Graham Potter yn gyn-reolwr ar glwb Swedaidd Östersunds, lle aeth ati i ddatblygu “empathi” y chwaraewyr, a chwalu’r “hierarchaeth arferol” rhwng chwaraewyr a’u hyfforddwyr.

Bydd yn perfformio cân i chwaraewyr yr Elyrch, er mwyn cael eu “groesawu” i’r tîm, ond “bydd hi ddim yn Gymraeg”, meddai.