Mi lwyddodd tîm pêl-droed merched Cymru i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Bosnia-Herzegovina neithiwr, gan gyrraedd brig Grŵp A yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Os wnawn nhw ennill y ddwy gêm sydd ganddyn nhw yn weddill, fe fyddan nhw yn creu hanes trwy gyrraedd ffeinals Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.

Fe enillodd y crysau cochion 1-0 neithiwr yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe, ar ôl rheoli’r chwarae trwy gydol y gêm.

Yn dilyn pwysau trwm, fe ddaeth gôl o’r diwedd i Gymru yn fuan wedi 60 munud, gyda Kayleigh Green yn rhwydo.

Mae ganddyn nhw ddwy gêm ar ôl i’w chwarae yng Ngrŵp A, sef Rwsia’r wythnos nesa’ a Lloegr ddiwedd mis Awst.