Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi dod i gytundeb er mwyn penodi Graham Potter yn rheolwr.

Mae’r Sais yn rheolwr ar dîm Östersunds yn Sweden ar hyn o bryd, ac fe fu’n rhaid i’r ddau glwb drafod iawndal dros yr wythnosau nesaf.

Bu’r Elyrch yn chwilio am reolwr newydd ers iddyn nhw gadarnhau na fyddai Carlos Carvalhal yn aros ar ôl i’r tîm ostwng i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd Graham Potter yn penodi ei staff ei hun, gan gynnwys yr is-reolwr Billy Reid a’r dadansoddwr recriwtio Kyle Macauley.

Yn ystod ei bedair blynedd yn Sweden, sicrhaodd Graham Potter dri dyrchafiad, gan fynd ag Östersunds o’r bedwaredd adran i’r adran gyntaf, ac ennill Cwpan Sweden yn 2017.

Fe fydd Graham Potter yn teithio i Gymru er mwyn cael cau pen y mwdwl ar y cytundeb.