Fe fydd nifer o gyn-chwaraewyr pêl-droed yn dychwelyd i’r cae pêl-droed fel rhan o ymgyrch i herio agweddau hiliol ym myd y campau.

Ddydd Sul, Mehefin 3, fe fydd y cyn-chwaraewyr yn ymuno â chyn-athletwyr Olympaidd a’r Gymanwlad i gynnal gêm ar noswyl Cwpan y Byd yn Rwsia.

Fel rhan o’r digwyddiad, fe fydd tîm pêl-droed Pontypridd yn herio tîm ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ ar Barc Chwaraeon Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd am 4 o’r gloch.

Bydd y tîm o enwogion a chyn-chwaraewyr fel a ganlyn: Sean Wharton (Sunderland), Steve Jenkins (Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Chymru), Danny Gabbidon (Caerdydd, West Ham, QPR, Crystal Palace a Chymru), Scott Young (Caerdydd),  Tom Ramasut (Norwich a Bristol Rovers), Christian Malcolm (athletwr), Damon Searle (Caerdydd a Chasnewydd), Jason Mohammad (darlledwr), Jason Trinder (Mansfield a Grimsby), Andy Gorman (Caerdydd), Roger Gibbins (Caerdydd, Casnewydd a Spurs)

‘Addysg mor bwysig ag erioed’

 Yn ôl rheolwr ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru, Sunil Patel, mae addysgu pobol am hiliaeth yn y byd chwaraeon mor bwysig ag erioed.

“Mae’r ymgyrch wrth ein boddau o gael cynnal y gêm elusennol ochr yn ochr â CPD Pontypridd.

“Mae cael cefnogaeth y teulu pêl-droed yr un mor bwysig ag yr oedd yn 1996 pan gafodd yr elusen ei sefydlu. Ar hyn o bryd, mae addysg wrth-hiliaeth mor bwysig ag erioed ac rydym yn parhau i gredu y gallwn ni, drwy bêl-droed, ddod â chymunedau ynghyd a sefyll yn un yn erbyn hiliaeth a senoffobia.

“Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi drwy’r gêm yn ein helpu ni i barhau i addysgu pobol ifanc drwy ein rhaglen ysgolion.”