Mae Graham Potter a Chlwb Pêl-droed Östersunds wedi cadarnhau bod Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gwneud cais i gynnal trafodaethau gyda’r Sais ynghylch swydd y rheolwr.

Mae’r Elyrch yn chwilio am reolwr newydd ar ôl penderfynu peidio â chynnig cytundeb newydd i Carlos Carvalhal ar ôl gostwng i’r Bencampwriaeth.

Dywedodd cadeirydd y clwb yn Sweden ei fod e wedi trafod y sefyllfa gyda chadeirydd Abertawe, Huw Jenkins.

Cyn hyn, roedd Graham Potter a’i glwb wedi bod yn gwadu’r trafodaethau.