Mae ymosodwr ifanc Cymru, David Brooks yn dweud ei fod e wedi ymrwymo i’r tîm cenedlaethol yn dilyn adroddiadau y gallai droi’n ôl at Loegr.

Cafodd ymosodwr Sheffield United ei enwi’n chwaraewr gorau Twrnament Toulon haf diwethaf yn dilyn ei berfformiadau i dîm dan 20 Lloegr. Cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gystadleuaeth cyn penderfynu cynrychioli Lloegr.

Ond fe wnaeth e droi ei sylw at Gymru wedyn gan fod ei fam Cathryn yn dod o Langollen, gan ddweud mai “camgymeriad” oedd iddo gael ei enwi gan Loegr ond fod rhaid iddo fynd gyda’r Saeson.

‘Dim diddordeb’

Enillodd e gapiau dros Gymru yn y gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Phanama ym mis Tachwedd. Ond gan eu bod nhw’n gemau cyfeillgar, mae ganddo’r hawl o hyd i ddewis cynrychioli Lloegr.

Mae wedi teithio i’r Unol Daleithiau gyda Chymru, lle mae disgwyl iddo herio Mecsico ddydd Mawrth, ac mae’n mynnu mai yng Nghymru mae ei ddyfodol.

“Dw i wedi ymrwymo i Gymru,” meddai, “a does gyda fi ddim diddordeb mynd yn ôl i Loegr.

“Fyddwn i ddim yn teithio ar draws y byd pe na bawn i eisiau bod yma. Mae angen i fi weithio’n galed i fod yn rhan o gynlluniau’r rheolwr [Ryan Giggs] yn y dyfodol.”