Mae Graham Potter yn mynnu y bydd yn arwain clwb pêl-droed, Östersund, yn ystod ei gêm y penwythnos hwn, ac na fydd yn cael ei enwi’n rheolwr ar glwb pêl-droed Abertawe.

Ef yw rheolwr y tîm Swedaidd hwnnw, ond bellach mae sïon yn dew mai ef fydd yn dod i olynu Carlos Carvalhal ar y Liberty y tymor nesaf.

Fe adawodd y cyn-reolwr yr wythnos ddiwethaf, pan ddaeth i’r amlwg y byddai’r clwb yn disgyn o Uwch Gynghrair Lloegr i’r Bencampwriaeth.

Er gwaetha adroddiadau bod Graham Potter eisoes wedi bod yn trafod â’r Elyrch, mae’r dyn ei hun yn wfftio’r sïon.

“Dyfalu”

“Dyfalu’n unig yw hyn,” meddai, wedi i’w dîm guro IK Sirius. “Mi ddywedais yr un peth ddoe, a chyn y gêm ddiwethaf. Mae’n union yr un peth nawr.

“Roedd rhaid i ni ganolbwyntio ar gêm heddiw, a gwnaethom hynny’n dda iawn. Ond yn awr, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar gêm ddydd Sadwrn.”

Mae Graham Potter, 43, yn hanu o Loegr, a llwyddodd Östersund ag ennill y Cwpan Swedaidd y llynedd, ag ef wrth y llyw.