Mae cyn-reolwr y Seintiau Newydd, Craig Harrison, wedi’i benodi’n rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Fe arweiniodd y Seintiau Newydd i fuddugoliaeth yn Uwch Gynghrair Cymru y llynedd.

Mae Craig Harrison yn olynu Kevin Nicholson a Gary Taylor-Fletcher, a adawodd y clwb ar ôl iddo gael ei israddio o Uwch Gynghrair Cymru.

Roedd hynny oherwydd iddyn nhw fethu â chael trwydded gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fis diwetha’.

Fe fydd Bangor yn disgyn i Gynghrair Undebol Huws Gray ar gyfer tymor 2018-19.