Mae’r dyn sy’n gyfrifol am gae pêl-droed Bae Colwyn, wedi’i enwebu am wobr.

Mae Elfyn Jones yn dod yn wreiddiol o Bentrefoelas, ond mae wedi’i enwebu yng nghategori ‘Tirmon y Flwyddyn Evo-Stik y Gogledd’ eleni. Fe fydd yn mynd i Blackpool, i seremoni fawreddog yng ngwesty’r Hilton, fis nesa’ i glywed a ydi o wedi ennill y wobr.

Mae ar ei ail dymor gyda chlwb y Gwylanod, ar ôl cyfnodau gyda Warrington, Caer a Rhyl, ac mae’n gweithio tua 30 awr yr wythnos ar faes Llanelian i gadw’r maes ar ei orau.

“Dw i’n edrych ymlaen at y noson yn Blackpool, a dw i’n eithaf hapus i gael fy enwebu… ond mi fasa’n dda cael ennill,” meddai Elfyn Jones wrth golwg360.

Gwair ydi’r gorau

“Gyda meysydd 3G yn boblogaidd – yn enwedig yng Nghymru – dw i’n gobeithio un diwrnod cael swydd efo clwb yn un o gynghreiriau Lloegr,” meddai wedyn.

“Dyn gwair ydw i, ar wair ddylai pêl-droed gael ei chwarae, ac eto dw i’n deall pwysigrwydd 3G er mwyn i glybiau fod yn gynaliadwy. Ond does dim byd gwell na chae gwair mewn cyflwr da.

“Dw i’n ffodus fy mod yn gwneud cysylltiadau yn y gêm a chyn dechrau tymor nesaf dw i’n gobeithio mmynd am ddiwrnod efo tirmyn Lerpwl i weld sut maen nhw’n gweithio. Diwrnod o weld a dysgu mwy am y maes.

“Dw i wedi bod ar ddiwrnodau tebyg efo Wrecsam a Bolton cyn hyn.”

Cydnabyddiaeth

Yr un fath ag unrhyw faes arall, mae angen hyfforddi ac ennill cymhwysterau ym maes tirmona hefyd – mae Elfyn Jones ar hyn o bryd wedi pasio lefel 1 a 2, ac yn chwilio o’i gwmpas am ysbrydoliaeth a syniadau.

Yn ddiweddar fe fu cynrychiolydd o glwb West Ham yn ei wylio wrth ei waith, ac mae’n bosib y bydd yn cael ei wahodd i St George’s Park, cartref FA Lloegr, am fwy o hyfforddiant.

“Mae’n wych pan mae cydnabyddiaeth  yn dod gan ddyfarnwyr, chwaraewyr a chefnogwyr,” meddai Elfyn Jones.

“Efo’r tywydd eithriadol rydan ni’n ei gael yn ddiweddar, mae’n dipyn o her cadw’r meysydd mewn cyflwr digon da i chwarae arnyn nhw… mae’r tymor hwn wedi bod yn waeth nag unrhyw un alla’ i ei gofio o ran glaw.

“O’n i’n methu rhoi tractor ar y cae am dair wythnos oherwydd fod y cae mor wlyb.”