Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi derbyn ei fod allan o Uwch Gynghrair Cymru ar ôl methu â chael trwydded gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru y mis diwethaf.

Bydd y tîm, sy’n un o glybiau mwya’ gogledd Cymru, nawr yn disgyn i Gynghrair Undebol Huws Gray y tymor nesaf, yn erbyn clybiau eraill yn y gogledd.

Mae’r timau yn y Gynghrair Undebol yn cynnwys Caernarfon, Porthmadog, Rhyl a Chyffordd Llandudno.

Dywed y clwb ei fod wedi ceisio “pob ffordd i geisio gwrthdroi’r penderfyniad”, gan ystyried mynd â’r achos mor bell â’r Uchel Lys a’r Llys Cymodi mewn Chwaraeon (CAS).

Ond ar ôl cymryd cyngor cyfreithiol, meddai datganiad gan y clwb, maen nhw wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen – oherwydd y gost ariannol a’r cymhlethdodau o ddychwelyd i Uwch Gynghrair Cymru.

Mae gan glwb Bangor bellach dîm rheoli a thîm cyfrifon newydd.

Mae disgwyl clywed ym mis Mehefin a fydd y tîm yn gallu chwarae yng Nghwpan Irn Bru yn yr Alban.