Mae Neil Warnock wedi cael ei gydnabod am sicrhau dyrchafiad gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.

Dyma wythfed dyrchafiad ei yrfa.

Mae wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Arbennig gan Gymdeithas Rheolwyr y Gynghrair ar ôl i Gaerdydd orffen yn ail yn y Bencampwriaeth i sicrhau dyrchafiad awtomatig.

Ond aeth gwobr Rheolwr y Flwyddyn i reolwr Wolves, Nuno Espirito Santo ar ôl i’w dîm ennill y gynghrair.

Gwobrau eraill

Rheolwr Man City, Pep Guardiola enillodd wobr Rheolwr y Flwyddyn yr Uwch Gynghrair a Rheolwr y Flwyddyn Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair ar ôl i’w dîm gyrraedd 100 o bwyntiau, gan dorri’r record flaenorol, a sgorio 106 o goliau yn ystod yr ymgyrch.

Rheolwr Amwythig, Paul Hurst gipiodd wobr Rheolwr y Flwyddyn yr Adran Gyntaf, ar ôl i’w dîm orffen yn drydydd a chyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley, lle byddan nhw’n herio naill ai Scunthorpe neu Rotherham.

Aeth gwobr Rheolwr y Flwyddyn yr Ail Adran i John Coleman ar ôl i Accrington Stanley orffen yn bedwerydd gyda 93 o bwyntiau.

Rheolwraig Chelsea, Emma Hayes gipiodd wobr Super League y Merched ar ôl llwyddo i ennill y dwbl.