Mae’r chwaraewr pêl-droed, Ki Sung-yueng, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael clwb Abertawe.

Daw’r penderfyniad ar ôl i’r Elyrch golli gêm yn erbyn Stoke ddydd Sul (Mai 13) gan ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr.

Mi wnaeth y chwaraewr canol cae, gynrychioli Abertawe mewn 137 gêm broffesiynol, a sgoriodd 12 gôl iddyn nhw.

“Roedd chwarae i Abertawe am bum mlynedd yn fraint,” meddai mewn neges Instagram. “Hoffwn ddiolch pob un o gefnogwyr Abertawe a wnaeth ein cefnogi ag angerdd ym mhob gêm.”

Mae dau chwaraewr arall, Leon Britton ac Angel Rangel, eisoes wedi datgan y byddan nhw’n gadael y clwb. Yn ogystal, mae ansicrwydd am ddyfodol Rheolwr yr Elyrch, Carlos Carvalhal.