Abertawe 0–1 Southampton                                                         

Mae trafferthion Abertawe tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr yn dwysáu wedi iddynt golli yn erbyn Southampton ar y Liberty nos Fawrth.

Manolo Gabbiadini a sgoriodd unig gôl y gêm i’r ymwelwyr o dan reolaeth Mark Hughes, canlyniad sydd yn eu rhoi hwy fwy neu lai yn ddiogel ond yn rhoi tynged yr Elyrch allan o’u dwylo eu hunain.

Wedi hanner awr agoriadol nerfus gan y ddau dîm, fe ddaeth cyfle cyntaf y gêm i Southampton a Charlie Austin ond llwyddodd Lukasz Fabianski i arbed yn gyffyrddus yn isel i’w dde.

Cafodd Abertawe gyfnod da wedi hynny ond yr ymwelwyr a gafodd y cyfle nesaf cyn yr egwyl wrth i Austin anelu foli gadarn yn syth at Fabianski.

Agorodd y gêm gryn dipyn wedi’r egwyl ac roedd angen arbediad da gan Alex McCarthy i atal cynnig Jordan Ayew o bellter yn y munudau agoriadol.

Parhau a wnaeth y frwydr rhwng Austin a Fabianski yn y pen arall wrth i’r Sais benio’n syth at y Pwyliad o chew llath ar yr awr.

Roedd yr un ddau chwaraewr yn ei chanol hi eto pan ddaeth y gôl agoriadol ddeunaw munud o ddiwedd y naw deg. Llwyddodd Fabianski i atal Austin unwaith eto ond ymatebodd eilydd Southampton, Gabbiadini, yn gynt na neb yn y cwrt chwech i droi’r bêl i gefn y rhwyd gyda chymorth gwyriad.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y tri isaf gydag un gêm yn weddill, adref yn erbyn Stoke ddydd Sul.

Mae tri phwynt a gwhaniaeth goliau o naw bellach yn gwahanu’r Elyrch a Southampton. Efallai felly mai gobaith gorau Carlos Carvalhal a’i dîm o aros yn yr Uwch Gynghrair yw ennill eu gêm olaf hwy a gobeithio y bydd Huddersfield yn colli eu dwy olaf hwy, yn erbyn Chelsea nos fory ac Arsenal ar y Sul olaf.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton (Narsingh 75’), Fernandez, Mawson, Olsson (Abraham 62’), Roberts, Ki Sung-yueng, King (Carroll 82’), Clucas, J. Ayew, A. Ayew

Cardiau Melyn: Ki Sung-yueng 20’, Fernandez 90+4’

.

Southampton

Tîm: McCarthy, Bednarek (Gabbiadini 68’), Stephens, Hoedt, Soares, Romeu, Højbjerg, Bertrand, Tadic (McQueen 83’), Redmond (Long 64’), Austin

Cerdyn Melyn: Romeu 38’

.

Torf: 20,858