Aberystwyth 1–4 Cei Connah                                                        

Cododd Cei Connah Gwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes wedi buddugoliaeth gyfforddus dros Aberystwyth yn y rownd derfynol ar Barc Latham, Y Drenewydd, brynhawn Sul.

Rhuthrodd y tîm o’r gogledd ddwyrain dair gôl ar y blaen yn y deugain munud cyntaf ac er i Aber dynnu un ôl cyn troi fe wnaeth Cei Connah ddigon i ddal eu gafael.

Hanner Cyntaf

Cei Connah a oedd y ffefrynnau ar ddechrau’r gêm ond roedd Aberystwyth yn ddigon cystadleuol yn yr ugain munud cyntaf.

Newidiodd hynny wrth i Michael Bakare roi’r tîm o Lannau Dyfrdwy ar y blaen hanner ffordd tryw’r hanner cyntaf. Cafodd amddiffyn Aber eu curo’n rhy rhwydd o lawer gan gic hir y gôl-geidwad, John Danby, a rhoddodd Bakare’r bêl drwy goesau Chris Mullock gyda’i gyffyrddiad cyntaf cyn ei rhoi yng nghefn y rhwyd gyda’i ail.

Dilynodd ail gôl y Nomadiaid yn dri munud yn unig yn ddiweddarach wrth i Mike Wilde ddyblu’r fantais gyda pheniad o gic gornel Declan Poole.

Rhoddod Wilde beniad arall yng nghefn y rhwyd wedi hynny ond cafodd ei gosbi, yn ddadleuol braidd, am wthiad ar amddiffynnwr.

Fu dim rhaid i flaenwr profiadol Cei Connah aros yn hir am ei ail ef a thrydedd ei dîm serch hynny. Pum munud a oedd i fynd tan yr egwyl pan agorodd amddiffyn Aber fel y môr coch i roi Wilde yn rhydd o bas Poole, a llithrodd y blaenwr y bêl heibio i Mullock yn y gôl.

Roedd hi’n ymddangos fod y gêm ar ben wedi hynny ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r tîm o’r canolbarth yn yr amser a ganiateir am anafiadu ar ddiwedd yr hanner pan beniodd Ashley Young i’r gornel uchaf o gic gornel Malcolm Melvin.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn llawer distawach gyda Cei Connah yn rheoli’r tir a’r meddiant heb greu llawer o gyfleoedd.

Bywiogodd pethau toc wedi’r awr gydag ergyd wych Melvin o bum llath ar hugain i Aberystwyth. Tarodd yr ergyd yn erbyn y trawst cyn adlamu dros y llinell ac yn ôl allan o’r gôl. Welodd y dyfarnwr na’i gynorthwywr mo hynny ac arhosodd Cei Connah ddwy gôl ar y blaen.

Bu rhaid i Young fod yn effro i glirio cynnig Bakare oddi ar y llinell yn y pen arall funud yn ddiweddarach.

A gyda’r chwiban olaf yn agosau, fe sicrhaodd Andy Owens mai tîm Andy Morrison a oedd yn codi’r Cwpan gydag ergyd nerthol o ddeunaw llath ym munud olaf y naw deg, 4-1 y sgôr terfynol o blaid Cei Connah.

.

Aberystwyth

Tîm: Mullock, Walker, Wollacott, Owens (Hobson 57’), Melvin, Owen, Wade (Sherlock 71’), Jones, Young, Allen, Phillips (Kellaway 79’)

Gôl: Young 45+2’

Cardiau Melyn: Walker 30’, Hobson 86’

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Pearson, Edwards, Horan, Harrison, Wignall (Woolfe 79’), Wilde (Owens 74’), Poole (Hughes 90+1’), Smith, Owen, Bakare

Goliau: Bakare 23’, Wilde 26’, 40’, Owens 90′

Cardiau Melyn: Poole 50’, Smith 67’

.

Torf: 1,455