Caerdydd 0–0 Reading                                                                     

Roedd gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Reading yn Stadiwm Dinas Caerdydd amser cinio ddydd Sul yn ddigon i sicrhau dyrchafiad i Uwch Gyghrair Lloegr i’r Adar Gleision.

Roedd tîm Neil Warnock angen canlyniad cystal â Fulham i sicrhau’r ail safle holl bwysig ar y Sul olaf yn y Bencampwriaeth ac roedd pwynt yn hen ddigon yn y diwedd wrth i’r tîm o Lundain golli oddi cartref y erbyn Birmingham.

Dechreuodd Caerdydd yn araf cyn dod fwyfwy i mewn i’r gêm wedi i Junior Hoilett grymanu ergyd fodfeddi heibio’r postyn wedi ugain munud.

Cafodd Hoilett ei lorio yn y cwrt cosbi gan Tiago Ilori yn fuan wedyn ond dim cic o’r smotyn yn ôl y dyfarnwr, Bobby Madley.

Daeth cyfle da i Kenneth Zohore cyn yr egwyl hefyd ond methodd y gŵr o Ddenmarc ag ergydio’n ddigon cyflym yn y cwrt cosbi wrth iddi aros yn ddi sgôr.

Gyda chanlyniadau eraill yn mynd o’u paid, roedd y ddau dîm yn amlwg yn ddigon hapus gyda’r sgôr gyfartal a doedd hi’n fawr o gêm mewn gwirionedd yn yr ail hanner.

Zohore a ddaeth agoasaf i’r Adar Gleision ond cafodd ei gynnig ei glirio oddi ar y llinell gan Liam Moore.

Ond gyda Fulham yn colli yn St Andrew’s, roedd pwynt yn ddigon i sicrhau’r ail safle yn y Bencampwriaeth i Gaerdydd a chodi tîm Neil Warnock i’r Uwch Gynghrair.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Bamba, Bennett, Paterson, Ralls, Bryson, Mendez-Laing, Zohore Madine 87’), Hoilett (Ward 78’)

Cerdyn Melyn: Hoilett 58’

.

Reading

Tîm: Mannone, Ilori (Kelly 34’), Elphick, Moore, Gunter, Bacuna, van der Berg, Edwards, Aluko (McShane 84’), Bodvarsson (Kermorgant 70’), Barrow

Cardiau Melyn: Elphick 27’, Kermirgant 74’

.

Torf: 32,478