Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi gadael ei swydd yn rheolwr ar Sunderland.

Daw’r newyddion wrth i’r cadeirydd Ellis Short gyhoeddi ei gynlluniau i werthu’r clwb, sydd yn gostwng i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf – yr ail waith mewn dau dymor iddyn nhw ostwng o un gynghrair i’r llall.

Daeth cadarnhad fod Chris Coleman wedi cael ei ryddhau o’i gytundeb, a bod y clwb yn cael ei werthu i gadeirydd Clwb Pêl-droed Eastleigh, Stewart Donald.

Cyfnod byr wrth y llyw

Cafodd Chris Coleman ei benodi gan Sunderland ym mis Tachwedd ar ôl gadael Cymru.

Ond dim ond pum gêm allan o 29 enillodd e, gan golli 16 ohonyn nhw.

Mae ei is-reolwr, Kit Symons hefyd wedi gadael y clwb.

Diolchodd y clwb iddyn nhw am eu “hymdrechion diflino” yn ystod “tymor siomedig i bawb”.