Casnewydd 2–1 Caergrawnt                                                          

Mae diweddglo da Casnewydd i’r tymor yn yr Ail Adran yn parhau wedi buddugoliaeth dros Gaergrawnt ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Mickey Demetriou’r tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Dyblodd Frank Nouble y fantais toc cyn yr awr gyda foli daclus wedi gwaith creu Aaron Collins.

Tynodd George Maris un yn ôl i Gaergrawnt ddeg munud o’r diwedd ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i’r Alltudion ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae’r tri phwynt yn codi Casnewydd i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl gyda dwy gêm yn weddill.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien (Pipe 45’), Demetriou, Butler, Willmott, Tozer, Sheehan, Dolan (Collins 55’), Nouble (Hayes 77’), Amond

Goliau: Demetriou 26’, Nouble 59’

Cerdyn Melyn: Nouble 48’

.

Caergrawnt

Tîm: Mitov, Halliday, Taylor, Taft, Carroll (Amoo 80’), Deegan, Brown, Maris, Lewis (Dunk 61’), Walters, Ikpeazu (Corr 46’)

Gôl: Maris 81’

Cerdyn Melyn: Corr 48’

.

Torf: 3,412