Wrecsam 0–0 Fylde                                                                           

Daeth tymor siomedig Wrecsam yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr i ben gyda gêm gyfartal yn erbyn Fylde ar y Sadwrn olaf ar y Cae Ras.

Y gêm ddi sgôr a oedd eu pedwerydd gêm gyfartal ar bymtheg o’r tymor, y nifer mwyaf yn y gynghrair a’r prif reswm na orffennodd y Dreigiau yn llawer llawer uwch yn y tabl.

Cafodd y tîm cartref gyfleoedd cynnar gyda Scott Quigley a Paul Rutherford ill dau yn taro’r postyn ond aros yn ddi sgôr a wnaeth hi tan yr egwyl.

Roedd Fylde yn ddigon hapus i amddiffyn y pwynt a oedd ei angen arnynt i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle. Ac yn Wrecsam, fe ddaethant wyneb yn wyneb a’r arbenigwyr gemau cyfartal.

Dim ond y pencampwyr, Macclesfield, a gollodd lai o gemau na Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol y tymor hwn ond mae’r ddiweddaraf mewn cyfres o gemau cyfartal yn golygu eu bod yn gorffen tymor siomedig yn ddegfed.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Robertsm Smith, Wedgbury, Jennings, Pearson, Rutherford, Wright, Kelly, Quigley (Mackreth 10’ (Deverdics 76’)), Boden

Cardiau Melyn: Roberts 53’, Jennings 81’

.

Fylde

Tîm: Lynch, Burke, Grand, Bond, Tunnicliffe, Francis-Angol, Smith, Hardy (Muldoon 57’), Montrose, Finley, rowe (Taylor 87’)

Cardiau Melyn: Tunnicliffe 20, Montrose 45’, Burke 63’ 85’

Cerdyn Coch: Burke 85’

.

Torf: 3,931